Tir Na n-Og 2016

Mewn seremoni a gynhelir ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint ar yr ail o Fehefin 2016, cyhoeddwyd mai'r awdures Siân Lewis a'r darlunydd Valériane Leblond yw enillwyr Gwobr Categori Cynradd Tir na n-Og 2016, gyda Llŷr Titus yn ennill Gwobr y Categori Uwchradd.

sian lewis

Gwobrwyir enillwyr y categori cynradd, Siân Lewis a Valériane Leblond, am eu cyfrol Pedair Cainc y Mabinogi a gyhoeddir gan Rily. Dyma lyfr clawr caled, swmpus a deniadol iawn, sydd yn denu'r llygad yn syth.

valeriane

Meddai Eirian James, Cadeirydd panel beirniaid Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og: "Mae'n plethu darluniau Valériane gyda geiriau Siân mewn cyfanwaith hyfryd iawn. Mae'r storïau wedi eu hadrodd yn syml ond yn raenus yma, ac mae'r darluniau yn cyfleu naws y storïau yn wych. Roeddem yn hoffi'r darluniau a'r mapiau yn y blaen, oedd yn cyflwyno cymeriadau a thiriogaeth y storïau."

Ychwanegodd: "Mae'r straeon yn cael eu hadrodd o'r newydd mewn iaith goeth, raenus ac yn hawdd eu darllen, gyda'r testun yn llifo'n rhwydd. Mae'n gyfrol sy'n addas i'w darllen yn uchel i blentyn bach gan riant, a hefyd i'w darllen gan y plentyn ei hun pan fydd ychydig yn hŷn."

Enillodd Siân y wobr hon yn ôl yn 2007. Meddai: "Mae'n hyfryd iawn cael gwobr am lyfr y ces i gymaint o flas ar ei sgrifennu yng nghwmni'r arlunydd Valériane Leblond, gyda chymorth Gordon Jones, y golygydd, Elgan Griffiths, y dylunydd, a Lynda Tunnicliffe o Gyhoeddiadau Rily. Hwrê – a diolch yn fawr i chi i gyd. Mae gen i res o silffoedd llyfrau yn sownd wrth wal fy stafell fyw. Fan'ny – yn nythu rhwng y llyfrau – yw'r lle gorau posib i'r tlws."

Pedair Cainc

Enillydd y categori uwchradd yw Llŷr Titus o Fryn-mawr ym Mhen Llŷn. Mae Gwalia, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn nofel antur i'r arddegau yng nghyfres boblogaidd Strach, lle'r ydym yn dilyn taith Elan o blaned i blaned ar long ofod.

llyr titus

Meddai Eirian James: "Roedd y llyfr yn denu o'r cychwyn cyntaf, gyda'r clawr trawiadol, nodweddiadol o'r math yma o stori, sydd yn boblogaidd iawn ac amserol iawn o ran diddordeb pobl ifanc heddiw. Teimlai'r panel nad oedd 'na ddim byd tebyg i hyn yn y Gymraeg, a'i bod yn stori ffres, newydd, amserol, wedi'i sgwennu'n dda ac yn cynnal diddordeb y darllenydd o bennod i bennod. Roeddem yn hoff hefyd o'r darluniau bach ar gychwyn pob pennod a theimlem eu bod yn ychwanegu at y stori, a braf oedd darllen am fyd arall yn y Gymraeg."

Gwalia

Mae Llŷr yn fyfyriwr ym mlwyddyn gyntaf ei gwrs doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle mae'n astudio dylanwad Celtigrwydd ar Gymru'r unfed ganrif ar hugain gan ganolbwyntio'n benodol ar hanesyddiaeth ac ideoleg. Meddai: "Pan ges i'r cynnig i sgrifennu nofel i'r grŵp oedran arbennig hwn, dyma feddwl beth yr hoffwn i fod wedi'i ddarllen pan oeddwn i'r un oed. Mae'n rhaid cyfaddef i mi ddarllen llawer mwy o Saesneg na Chymraeg pan oeddwn i'n iau am fod nofelau Saesneg yn trafod pethau a oedd yn ddifyrrach i mi. Does yna ddim digon o'r math yma o beth yn y Gymraeg ac felly dyma feddwl datrys mymryn ar hynny."

Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fe'u sefydlwyd yn 1976, a thros y blynyddoedd maent wedi eu cyflwyno i rai o awduron gorau Cymru ym maes llyfrau plant.

Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd fel rhan o gynhadledd CILIP yn Abertawe, cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2016, sef y brif wobr yng Nghymru ar gyfer awduron llyfrau plant a phobl ifanc.

Griff Rowland

Mae nofel Griff Rowland, The Search For Mister Lloyd a gyhoeddir gan Candy Jar Books, yn sôn am ymgais Mostyn Price i ddod o hyd i'w golomen, Mister Lloyd, sydd heb ddychwelyd o'i ras. Yn ôl Griff, sydd yn wreiddiol o Fangor ond sydd bellach yn byw yn Nhreganna yng Nghaerdydd, ac sy'n gyfarwyddwr rhaglenni teledu a dramâu fel Coronation Street, Holby City a Hollyoaks, mae derbyn y wobr yma, a hithau'n dathlu ei deugeinfed pen-blwydd eleni, yn anrhydedd aruthrol.

mister lloyd

Meddai: "Mae'r daith rhwng dechrau sgrifennu stori a'i gweld mewn print yn un hir, felly mae'n braf iawn derbyn y wobr. Dyma fy nofel gyntaf, ac mae wedi bod yn dipyn o waith i mi gynhyrchu'r llyfr. Mae'n stori hynod ac annisgwyl am golomennod, ond roedd gen i ffydd yn y nofel ac yn yr hyn ro'n i'n ceisio'i fynegi. Fe'i sgrifennais bob yn dipyn, rhwng ysbeidiau o waith teledu. Heb wybod a fyddai unrhyw un yn hoffi'r stori, fe ddaliais ati am ei bod hi'n bwysig i mi."

Ychwanegodd: "Mae fy mam, Beryl Stafford Williams, yn nofelydd ac yn gyn-athrawes Saesneg; roedd ei thad hithau, Stafford Thomas, yn fardd; ac mae fy nhad, J. Gwynn Williams, yn hanesydd ac yn gyn-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'n amlwg bod llyfrau a storïau yn y gwaed!"

Yn ôl Bethan M. Hughes, Cadeirydd panel beirniadu Gwobr Tir na n-Og 2016: "Fersiwn gyfoes yw hon o stori'r dyn sy'n chwilio am yr hyn sydd tu hwnt i'w afael. Mae iddi iaith gyfoethog a delweddau dyfeisgar, ac mae'n ein tywys ar ras drwy amrywiaeth o emosiynau llon a lleddf. Gan ddefnyddio safbwyntiaunaratif gwahanol, mae'n cyfareddu'r darllenydd ac yn hoelio'i sylw o'r cychwyn cyntaf gyda'i harddull sgyrsiol uniongyrchol sy'n parodïo'n gelfydd hen ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus a sgyrsiau ar-lein cyfoes. Mae'n archwilio'r berthynas rhwng aelodau teuluol, yn enwedig rôl y tad, ynghyd â chefnogaeth a theyrngarwch rhwng cyfeillion. Wedi ei gosod ym Mangor a Llundain, mae'n plethu ymadroddion ac enwau Cymraeg yn ddiymdrech i wead y naratif. Dyma nofel sy'n codi chwerthin ac yn cyffwrdd â'r galon bob yn ail, yn llawn penbleth a golygfeydd cofiadwy."

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae'n bleser cael llongyfarch enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og, gwobr sy'n rhoi bri a statws haeddiannol i waith awduron llyfrau plant a phobl ifanc. Eleni, rydym yn anrhydeddu awdur newydd a thalentog– Griff Rowland. Mae'n amlwg, felly, fod y wobr yn adlewyrchu'r holl fywiogrwydd sydd i'w weld ym maes llyfrau plant drwy gyfrwng y Saesneg, ac rydym yn estyn ein llongyfarchiadau i'r awduron a'r cyhoeddwyr am eu gwaith."

Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og gan CILIP Cymru/Wales (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru).

Gwales

Books from Wales on-line

gwales.com