Gwobrau Tir na n-Og 2008

GWOBRAU CYMRAEG TIR NA N-OG 2008

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og o lwyfan yr Urdd.

Cyflwynir y gwobrau am y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc gan Gyngor Llyfrau Cymru. Noddir y gwobrau o £1,000 yr un gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) ac fe'u cyflwynwyd i'r awduron mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy.

CATEGORI CYNRADD

Enillydd y wobr yn y categori cynradd yw Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth, Nicholas Daniels, Dref Wen.

Nicholas Daniels

Stori am Gwiddan, merch sy'n cael ei phen-blwydd yn dair ar ddeg oed sydd yma. Ar ddiwrnod ei phen-blwydd mae ei thad yn rhoi pâr o dreinyrs newydd iddi yn ogystal ag anrheg oddi wrth ei mam a fu farw pan oedd hi'n ferch fach – sef y Llyfr Ryseitiau.

Mae'r stori'n gymysgfa fyrlymus o hanes merch ysgol gyffredin a byd chwedloniaeth Llyn y Fan Fach a'r hud sy'n gysylltiedig â'r swynion yn y Llyfr Ryseitiau.

Mae'n nofel gyffrous a gwahanol, yn ôl y panel detholwyr, ac yn nofel sy'n torri tir newydd yn Gymraeg gan gynnig cyfuniad difyr o hen chwedl Gymreig a byd hudolus, tebyg i fyd Harri Potter.

Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth yw pumed cyfrol Nicholas Daniels a dyma'r tro cyntaf iddo ennill gwobr Tir na n-Og. Mae'n frodor o Langennech, Llanelli, ac yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Evan James, Pontypridd.

CATEGORI UWCHRADD

Enillydd y wobr yn y categori uwchradd yw Gareth F. Williams am ei nofel Eira Mân, Eira Mawr (Cyfres Whap!), Gwasg Gomer.

Gareth_F_Williams

Mae hon yn nofel arswydus a medrus sy'n dangos bod canlyniad i bob gweithred ac y gall y canlyniadau hynny weithiau fod yn ddychrynllyd. Prin y byddai Anna, Marc ac Ows Bach wedi meddwl y byddai'r daith adref o'r dafarn un noswyl Nadolig o eira yn newid eu bywydau am byth.

Mae Eira Mân, Eira Mawr yn difyrru ac yn gafael yn y darllenydd wrth ei ddychryn ar yr un pryd. Yn ôl y panel beirniaid, dyma nofel rymus sy'n gwthio ffiniau nofelau i'r arddegau i'r eithaf. Yn sicr, mae hon yn chwip o nofel a fyddai'n apelio at oedolion yn ogystal ag arddegwyr hŷn. Eisoes mae Gareth F. Williams wedi ennill gwobr Tir na n-Og deirgwaith yn y gorffennol:

* yn 1991 am O Ddawns i Ddawns
* yn 1997 am Dirgelwch Loch Ness
* yn 2007 am Adref Heb Elin

Mae Gareth F. Williams yn awdur llawn-amser. Daw'n wreiddiol o Borthmadog, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:
"Rydym yn hapus iawn i groesawu enillwyr Gwobrau Tir na n-Og i lwyfan prifwyl ieuenctid Cymru. Drwy ein cylchgronau misol, o Cymru'r Plant i Cip, a'n cystadlaethau llenyddol yn yr Eisteddfod, mae cyfraniad yr Urdd i lenyddiaeth plant yng Nghymru wedi bod yn arwyddocaol, ac rydym yn falch o gael cyfle i anrhydeddu'r awduron disglair sydd wedi dod i'r brig eleni."

Ac meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau:
"Rydym yn hynod falch o gael cydnabod yr awduron eleni drwy gyflwyno'r gwobrau hyn o lwyfan yr Eisteddfod. Y mae'n braf cyhoeddi yn ystod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol bod llyfrau o safon yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ein darllenwyr ifainc ac y mae'n arwydd o'r ystod eang o lyfrau sydd ar gael heddiw".

Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2008

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og am 2008, gwobr sy’n cydnabod safon arbennig llyfrau gyda chefndir Cymreig dilys iddynt i blant a phobl ifanc.

Enillydd y wobr Saesneg yw Frances Thomas am ei nofel i bobl ifanc Finding Minerva, Gomer/Pont Books. Noddir y wobr gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) ac fe’i cyflwynwyd i’r awdur yn ystod derbyniad yng nghynhadledd CILIP yn Llandrindod, Powys.

FrancesThomas

Mae Finding Minerva yn nofel llawn cyffro sydd wedi’i lleoli mewn Prydain fodern sy’n dal o dan yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae’r nofel yn cydio yn y dychymyg o’r dudalen gyntaf. Caiff Livia Marcel gryn sioc pan ddarganfu fod yr heddlu’n amau ei ffrind Macs o lofruddiaeth. Pan dderbyniodd hi nodyn rhyfedd yn dweud ei bod hithau hefyd o dan wyliadwriaeth, mae Livia’n ofni am ei bywyd. Mae Frances Thomas wedi llwyddo i greu stori gyffrous, ddiddorol gyda chymeriadau cryf ac elfen o berygl. Ochr yn ochr â’r elfen gyffrous datblyga’r stori garu rhwng Livia a Cai.

Mae’r modd y llwyddodd yr awdur i gyfuno’r modern gyda chyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig yn ddeheuig iawn ac mae Livia yn arwres benigamp.

Yn ôl yr adolygiad ar www.gwales.com:
‘All in all, this is a gripping, hugely enjoyable novel, and I would highly recommend it to everyone.’

Ganed Frances Thomas ym 1943 yn Aberdâr lle’r oedd ei mam wedi symud i osgoi effeithiau’r bomiau adeg y rhyfel. Cymro oedd ei thad, ac roedd ei mam o dras Gwyddelig a Seisnig. Symudodd y teulu yn ôl i fyw i Lundain, lle cafodd Frances Thomas ei magu.

Gan ei bod yn unig blentyn, arferai ddarllen llawer o lyfrau a phan nad oedd digon o’r rheiny ar gael, byddai’n cyfansoddi ei storïau ei hun, ac mae hi’n parhau i wneud hynny.

Fe’i haddysgwyd mewn cwfaint ac yn ddiweddarach astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Llundain gan hyfforddi i fod yn athrawes. Priododd yr hanesydd Yr Athro Richard Rathbone ac mae ganddynt ddwy ferch.

Yn ôl yr awdur, y gwaith a roddodd fwyaf o fwynhad iddi ar wahân i ysgrifennu oedd gweithio gyda phobl ddyslecsig.

Nid dyma’r tro cyntaf i Frances Thomas ennill Gwobr Tir na n-Og. Mae eisoes wedi ennill y wobr deirgwaith yn y gorffennol:

ym 1981 am The Blindfold Track (y llyfr cyntaf iddi ei ysgrifennu ar gyfer plant)
ym 1986 am Region of the Summer Stars
ym 1991 am Who Stole a Bloater?

Mae’n awdur sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ond caiff foddhad arbennig o ysgrifennu ar gyfer plant. Enillodd Wobr Cyngor Celfyddydau’r Alban am Supposing, llyfr stori-a-llun ar gyfer y plant lleiaf.

Ar ôl byw am flynyddoedd yng ngogledd Llundain penderfynodd hi a’i gŵr ymgartrefu yng nghanolbarth Cymru, lle’r arferent dreulio gwyliau fel teulu.

Meddai Frances Thomas, ‘Rwy’n hapus ac yn falch iawn fy mod wedi ennill y wobr hon’.

Mae bellach yn dysgu Cymraeg, er ei fod yn anodd, ac yn mwynhau cerdded, ysgrifennu a phaentio.

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein

Cronfa wybodaeth Cyngor Llyfrau Cymru i'r fasnach lyfrau

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein