Dosbarthu

Mae Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cyfanwerthu i’r fasnach lyfrau yng Nghymru.

Mae’n hadeilad pwrpasol ar Barc Menter Glanyrafon yn Aberystwyth yn cynnwys stoc eang o lyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.

Ar unrhyw adeg, mae hyd at hanner miliwn o lyfrau yn cael eu cadw yn y Ganolfan yn barod i’w dosbarthu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.  

Warws Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru gyda phentyrrau o focsys a silffoedd yn llawn llyfrau

 

Daw o ddeutu at 1,300 o lyfrau newydd Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru neu o diddordeb Cymreig o’r wasg yn flynyddol ac rydym yn anelu at stocio pob llyfr posibl sydd o ddiddordeb Cymreig, lle gall cyhoeddwyr gynnig telerau cyfanwerthu.

Dylai cyhoeddwyr sy’n dymuno cynnig teitlau i’r Ganolfan Ddosbarthu gysylltu gyda’r Adran Gwerthu a Gwybodaeth:

Yr Adran Gwerthu a Gwybodaeth
Cyngor Llyfrau Cymru
Uned 16 Parc Menter Glanyrafon
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3AQ
Ffôn: 01970 624455
Ffacs: 01970 625506
E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru

  • Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr holl lyfrau a gedwir mewn stoc yn y Ganolfan Ddosbarthu drwy ymweld â safle www.gwales.com.
  • Mae gan dros 800 o siopau gyfrifon yn y Ganolfan Ddosbarthu. Cynigir gwasanaeth dosbarthu diwrnod-wedyn i siopau llyfrau sy’n archebu cyn hanner dydd. Codir tâl cludiant os yw’r archebion yn werth llai na £66.66 net. Gall llyfrwerthwyr gysylltu â’r cyfeiriad isod os ydynt am wneud cais am agor cyfrif.
  • Mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn gwasanaethu 350 o gyhoeddwyr. Am restr ddethol o gyhoeddwyr Cymru cysylltwch â gwybodaeth@llyfrau.cymru 
  • Gwerthwyd bron i 600,000 o eitemau yn 2019/20 trwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau.
  • Mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn hunangynhaliol, ac nid yw’n derbyn unrhyw nawdd tuag at ei chynnal trwy’r pwrs cyhoeddus.

Dylid cyfeirio pob ymholiad i’r Ganolfan Ddosbarthu:

Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru,
Uned 16 Parc Menter Glanyrafon,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3AQ.
Ffôn: 01970 624455
Ffacs: 01970 625506
E-bost: canolfan.ddosbarthu@llyfrau.cymru