Mae’r Adran Ddylunio yn cynnig gwasanaeth dylunio i gyhoeddwyr yng Nghymru. Bob blwyddyn bydd hyd at 100 o deitlau gwahanol yn mynd trwy ddwylo’r Adran.
Mae’r Adran yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Dylunio cloriau llyfrau
- Dylunio llyfrau o glawr i glawr
- Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.
Mae’r Uwch-Swyddog Dylunio a’r Swyddog Dylunio yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maent hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.
Yr Adran sy’n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru.
Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni.
Manylion Cyswllt
Sion Ilar
Uwch Swyddog Dylunio
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Facs: 01970 625385
E-bost: sion.ilar@llyfrau.cymru
Golygyddol
Mae’r Adran Olygyddol yn gwasanaethu cyhoeddwyr Cymru, ac yn delio ag oddeutu 175 o deipysgrifau bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymraeg.
Deunydd darllen hamdden a dderbynnir; ni fydd yr Adran yn ymdrin â deunydd addysgol.
Gwasanaethu Cyhoeddwyr
I gyhoeddwyr, mae’r Adran yn cynnig gwasanaeth golygyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg, h.y. golygu teipysgrifau a chywiro proflenni. Bydd yn gweithredu yn y modd hwn ar ran hyd at 20 o gyhoeddwyr, gan fanteisio ar gymorth tîm bychan o olygyddion a darllenwyr allanol profiadol yn ôl yr angen.
Gwasanaethu Awduron
Er mwyn cysylltu’n uniongyrchol â chyhoeddwyr, ewch ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein lle gellir cael gwybodaeth am gyhoeddwyr yng Nghymru.
Manylion Cyswllt
Huw Meirion Edwards
Uwch Swyddog Golygyddol
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Facs: 01970 625385
E-bost: huw.meirionedwards@llyfrau.cymru