Cystadlaethau

Sgwennu Stori Aled Hughes 2024 

Mae rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru. 

Rydym yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori o ddim mwy na 500 gair ar thema ‘Hud a Llethrith‘.

Mae tri chategori:

Cyfnod Sylfaen, sef 5–7 oed 

Cyfnod allweddol 2a, sef 7–9 oed 

Cyfnod allweddol 2b, sef 9–11 oed

Lansiwyd y gystadleuaeth yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, ar 9 Ebrill 2024.

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu ar sail y meini prawf canlynol:

  • gwreiddioldeb
  • plot
  • cymeriadu
  • iaith
  • mwynhad

a’r thema fydd . . . HUD A LLEDRITH

DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH:  Dydd Gwener, 7 Mehefin 2024

Casia Wiliam fydd y beirniad yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

 

Noder: Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024. Bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan Gyngor Llyfrau Cymru, a chloriau digidol yn cael eu creu i’r straeon buddugol.

 

Os am gystadlu, rhaid i ddisgyblion anfon eu straeon byrion drwy’r ysgol (ynghyd â ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru neu isod) at Radio Cymru erbyn y dyddiad cau.

Y cyfeiriad yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori, ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau, yr hysbysiad preifatrwydd, a’r hysbysiad preifatrwydd i bobl ifanc cyn cystadlu.

 

Ffurflen Gais – fersiwn PDF

Ffurflen Gais Sgwennu Stori 2024.pdf

 

Ffurflen Gais – fersiwn Word

Ffurflen Gais Sgwennu Stori 2024.docx

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

POB LWC!