Llyfrau £1

Cloriau'r pedwar llyfr £1 Cymraeg sydd ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021

Diolch i nawdd gan National Book Tokens ac i lu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr hyfryd, mae Diwrnod y Llyfr, mewn partneriaeth ag ysgolion a meithrinfeydd ledled y wlad, yn dosbarthu tocyn llyfr Diwrnod y Llyfr £1 i blant a phobl ifanc. Gellir cyfnewid y tocyn naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall.

Mae llyfrau £1 Diwrnod y Llyfr yn rhodd gan lyfrwerthwyr, sy’n ariannu cost y tocyn llyfrau £1 yn llawn.

Mae’r llyfrau £1 hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy yr RNIB (Ffôn: 0303 123 999).

Bydd tocynnau llyfr £1 Diwrnod Llyfr yn ddilys o ddydd Iau 15 Chwefror tan ddydd Sul 31 Mawrth 2024.

Cysylltwch â’ch llyfrwerthwr lleol i wirio a ydyn nhw’n gallu cynnig £1 oddi ar deitlau eraill. Mae’r telerau ac amodau llawn ar wefan elusen Diwrnod y Llyfr – https://www.worldbookday.com/terms-conditions/.

Ffeithiau Ffiaidd y Corff gan Kevin Payne (addas. Mari George) yw’r llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer 2024 ac mae ar gael nawr drwy siopau llyfrau Cymru.

Y llyfrau Cymraeg arall sydd ar gael am £1 eleni yw Lledrith yn y Llyfrgell (Y Lolfa) gan Anni Llŷn, Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach (Broga) gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron, a Gwisg Ffansi Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Am fwy o wybodaeth am y teitlau Saesneg sydd ar gael eleni, ewch i –

https://www.worldbookday.com/books/

Mae manylion holl siopau llyfrau annibynnol Cymru i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau.