Cynllun Cysgodi Tir na n-Og

Eisiau cyflwyno llyfrau newydd i ddarllenwyr ifanc?

Eisiau llyfrau am ddim a phecyn adnoddau?

Eisiau trafod y llyfrau a straeon yna?

Cynllun cysgodi Tir na n-Og yw’r peth i chi!

Bwriad y cynllun cysgodi yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc am deitlau’r rhestr fer wrth gynnig cyfle i fwynhau darllen a thrafod y llyfrau â’u cyfoedion.

Unwaith eto eleni, rydym yn falch o fedru cyflwyno gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun cysgodi.

Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Mae’r pecyn cysgodi’n cynnwys crynodeb o’r llyfrau, sylwadau gan y beirniaid swyddogol, gwybodaeth am yr awduron, gemau a chardiau pleidleisio.

Ar ôl cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun cysgodi, byddwn yn anfon un copi o lyfrau’r rhestr fer rydych yn ei chysgodi yn y post a chopi electronig o’r pecyn cysgodi atoch.

Bydd angen i’r ysgolion bleidleisio am eu hoff lyfr Saesneg erbyn 13 Mai 2024 a hoff lyfrau Cymraeg erbyn 22 Mai 2024.

Bydd yr enillwyr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar 29 Mai a’r enillydd Saesneg ar 17 Mai 2024.

I gofrestru ar gyfer y cynllun cysgodi eleni dilynwch y ddolen YMA.

Pecynnau cysgodi
Tir na n-Og 2023
ar gael i’w lawrlwytho yma

Pecynnau cysgodi
Tir na n-Og 2022
ar gael i’w lawrlwytho yma